Mynd i'r cynnwys

Hygyrchedd

Mae Gŵyl Fel ‘Na Mai wedi ymrwymo i sicrhau bod pob un o’n mynychwyr yn cael profiad cyfartal a chynhwysol lle bo modd.

Safle
Cynhelir Gŵyl Fel ‘Na Mai ar dir caled, sy’n lleihau unrhyw broblemau symudedd.

Tocyn Cyfaill
Rydym yn cynnig tocynnau cyfaill am ddim ar gyfer pobl na fyddai’n gallu mynychu’r Ŵyl ar eu pen eu hunain oherwydd eu hanabledd. Wrth archebu tocyn i’r Ŵyl, bydd cyfle i ychwanegu tocyn cyfaill am ddim i’r fasged.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Tocyn Cyfaill, rhaid i fynychwr fod yn derbyn 1 neu fwy o’r canlynol:

•⁠ ⁠DLA cyfradd ganolig neu uwch ar gyfer gofal a/neu symudedd
• Derbyn Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)
•⁠ ⁠Tystiolaeth o nam difrifol ar y golwg
•⁠ ⁠Cerdyn Mynediad CredAbility – + gofyniad 1 categori

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth unwaith y bydd tocyn wedi’i archebu i tocynnau@felnamai.cymru
Atodwch unrhyw dystiolaeth, ynghyd â’ch enw a rhif yr archeb er mwyn i ni allu dilysu’r tocyn.

Bathodyn Glas
Darperir ardal barcio benodol ar gyfer deiliaid bathodyn glas. Lleolir yr ardal barcio o fewn rhai metrau o’r fynedfa. Dilynwch arwyddion i’r brif faes parcio, a siaradwch ag un o’r stiwardiaid.

Cŵn Cymorth
Mae croeso i gŵn cymorth cofrestredig neu gŵn cefnogaeth emosiynol ar safle’r Ŵyl.
Perchnogion sy’n gyfrifol am ymddygiad eu cŵn ac am lanhau ar eu hôl trwy gael gwared ar unrhyw wastraff.

Toiledau
Lleolir toiledau hygyrch yn y bloc doiledau wrth y brif fynedfa.

Dŵr
Bydd dŵr yfed ar gael ar y safle.

Strôb
Byddwch yn ymwybodol y gall rhai perfformiadau ddefnyddio goleuadau strôb/laser heb rybudd, gan all hyn effeithio ar bobol â epilepsi ffotosensitif.

Cymorth Cyntaf
Bydd darpariath Cymorth Cyntaf wedi’i leoli wrth y brif fynedfa os bydd angen cymorth meddygol yn ystod y dydd.