Croeso i Gŵyl Fel 'Na Mai
Gŵyl gerddorol ar safle Parc Gwynfryn wrth odre’r Frenni Fawr ym Mro’r Preseli, gogledd Sir Benfro yw Gŵyl Fel ‘Na Mai.
Ceir perfformiadau gan artistiaid mwyaf y sîn yng Nghymru ynghyd â thalentau lleol.
Cynigir amrywiaeth o fwydydd blasus, yn cynnwys bwyd llysieuol a fegan; bar yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd; safleoedd parcio cyfagos; darpariaeth gwersylla a gweithgareddau amrywiol, hwylus a chyffrous i blant.
Mae Gŵyl Fel ‘Na Mai yn cynnig profiad unigryw i bawb sy’n caru’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig lle y gellir profi awyrgylch gyfeillgar a chartrefol i bobl o bob oed. Mae’n ŵyl gynhwysol sy’n berffaith i deuluoedd, ffrindiau ac unrhyw un sy’n mwynhau cerddoriaeth Cymraeg a chymdeithasu.


Tocynnau ar gael ar gael nawr.
Byddwn yn diweddaru’r wefan gyda holl wybodaeth am ŵyl 2025 dros yr wythnosau nesaf.