Mynd i'r cynnwys

Cwestiynau Cyffredinol

Mae atebion i’r rhan fwyaf o ymholiadau a chwestiynau i’w gweld isod.

Gellir dod o hyd i atebion i’r rhan fwyaf o gwestiynau am brynu tocyn ar y dudalen Gwybodaeth Tocynnau.

Lleolir yr Ŵyl ym Mharc Gwynfryn, Crymych, SA41 3RQ. Am gyfarwyddiadau, cliciwch yma.

Holl atebion am sut i gyrraedd yr Ŵyl ar gael ar y dudalen Teithio a Pharcio.

Bydd digon o le parcio ar gael ar y safle.

Gŵyl deuluol yw Gŵyl Fel ‘Na Mai. Nid oes unrhyw gyfyngiadau oedran, fodd bynnag mae angen i blant o dan 11 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Mae’n bosib y gofynnir i fynychwyr yr Ŵyl ddangos cerdyn adnabod er mwyn profi eu hoed. Bydd band garddwrn penodol i bawb dros 18 er mwyn cael yr hawl i brynu alcohol.

Gallwch ddod o hyd i’r rhestr lawn o artistiaid a gyhoeddwyd hyd yma fan hyn.

Bydd mannau parcio penodol i ddeiliaid bathodynnau glas ger mynedfa’r Ŵyl. Mwy o wybodaeth ar gael ar y dudalen Hygyrchedd.

Ewch i’r dudalen Amserodd Allweddol i weld yr holl amseroedd pwysig.

Ni allwn ddibynnu ar y tywydd yng Nghymru, felly paratowch ar gyfer pob tywydd! Bydd y rhan fwyaf o’r gweithgareddau yn cael eu cynnal y tu fewn.

Mae croeso i chi ddod â bwyd ond ni chaniateir i chi ddod ag alcohol. Bydd amrywiaeth o werthwyr bwyd a diod, gan gynnwys diodydd alcoholig ar gael i’w prynu. Bydd dŵr yfed ar gael am ddim. Gofynnwn yn garedig i chi waredi eich sbwriel yn y biniau a ddarperir.

Gellir gweld yr amserlen fan hyn, ond gall yr amserlen newid ar y funud olaf.

Mae Gŵyl Fel ‘Na Mai wedi ymrwymo i sicrhau bod pob un o’n mynychwyr yn cael profiad cyfartal a chynhwysol lle bo modd.
Bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal ar dir caled.
Ewch i’r dudalen Hygyrchedd am yr holl wybodaeth.

Yn anffodus, ni chaniateir anifeiliaid ar safle’r Ŵyl ac eithrio cŵn cymorth cofrestredig neu gŵn cefnogaeth emosiynol. Ewch i’r dudalen Hygyrchedd i weld yr holl wybodaeth.

Bydd Gŵyl Fel ‘Na Mai yn tynnu lluniau a/neu ffilmio yn y digwyddiad. Gellir defnyddio’r delweddau hyn yn y ffyrdd canlynol:

– Cyhoeddusrwydd printiedig yr Ŵyl

– Cyhoeddusrwydd ar-lein yr Ŵyl (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol)

– Eu rhannu â sefydliadau trydydd parti i’w ddefnyddio i hyrwyddo’r Ŵyl

Cânt eu storio’n ddiogel ac ni chânt eu cadw am fwy o amser nag sydd eu hangen at y dibenion a restrir uchod.

Os byddai’n well gennych i chi neu’ch plentyn beidio â chael eich llun wedi ei thynnu na’ch ffilmio, cysylltwch ag aelod o staff ar y safle ac e-bostiwch: [email protected]

Os hoffech weld eich lluniau, neu os hoffech i ni eu dileu, cysylltwch â: [email protected]

Gall ffotograffiaeth neu ffilmio cymeradwy arall ddigwydd ar y safle. Siaradwch â’r criw yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw bryderon neu os byddai’n well gennych i chi neu’ch plentyn beidio â chael eich llun wedi ei thynnu na’ch ffilmio.

Byddwch yn ymwybodol y gall rhai perfformiadau ddefnyddio goleuadau strôb/laser heb rybudd, gan all hyn effeithio ar bobol â epilepsi ffotosensitif.

Bydd pobl sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf ar y safle.