Bod yn Wyrdd
Mae Gŵyl Fel ‘Na Mai wedi ymrwymo i leihau ein hôl troed amgylcheddol a hyrwyddo cynaliadwyedd drwy gydol ein digwyddiad. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd rheoli gwastraff yn gyfrifol, ac yn anelu at greu effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.
Rhoddion ‘Penny for the Planet’
Trwy ein platfform gwerthu tocynnau carbon niwtral B Corp, rydym yn rhoi 1c am bob tocyn a werthir ar draws pob digywddiad, yn cynnwys Gŵyl Fel ‘Na Mai, i achosion hinsawdd.
Teithio Cynaliadwy
Rydym yn eich annog i rannu car lle bo modd, er mwyn lleihau nifer y ceir sy’n teithio i’r Ŵyl. Mae opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael hefyd. A fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen Teithio a Pharcio.
Bwyd a Diod
Bydd yr holl ddarparwyr bwyd a diod yn gwmniau lleol. Gofynir i’r darparwyr i ddefnyddio deunyddiau pecynnu y gellir eu hailgylchu a lleihau’r gwastraff a gynhyrchir.
Dŵr
Darperir dŵr yfed ar safle’r Ŵyl. Dewch â photel y gellir ei hailddefnyddio.
Sigarets
Casglwch eich bonion yn hytrach na’u gollwng! Bydd yn rhaid eu codi i gyd felly gwnewch eich gorau i’n helpu ni.
Gwelltau
Ni ddefnyddir gwellt plastig ar y safle.
Plastig a Chwpanau
Rydym yn awyddus i osgoi defnyddio plastig defnydd sengl yng Ngŵyl Fel ‘Na Mai. Bydd angen i fynychwyr yr Ŵyl brynu cwpan (£1) i’w ddefnydio i yfed yn ein bar, a bydd croeso i chi gadw’r cwpan ar ôl yr Ŵyl. Unrhyw gwpanau sy’n weddill ar ôl y flwyddyn hon, byddwn yn golchi, sychu a storio i’w hailddefnyddio y flwyddyn nesaf.
Biniau
Bellach mae’n gyfraith yng Nghymru bod yn rhaid didoli a gwahanu’r holl ailgylchu cyn gadael safle’r Ŵyl. Felly bydd digon o finiau wedi’u lleoli o gwmpas y safle i helpu i gynyddu ailgylchu yn yr Ŵyl.
Helpwch ni i ailgylchu cymaint ag y gallwn -gwnewch eich gorau glas i roi eich sbwriel yn y biniau cywir – mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr!
Gellir dod o hyd i’n Polisi Ailgylchu a Rheoli Gwastraff fan hyn.
Gwe-letya
Mae ein llety gwe wedi ymrwymo i gadw ei seilwaith yn niwtral o ran yr hinsawdd ac yn rhydd o gyfaddawdau amgylcheddol.
Trwy ddefnyddio ynni gwyrdd, maent yn lleihau ei hallyriadau CO₂. Maent hefyd yn gwella effeithlonrwydd ei canolfannau data yn barhaus. Mae gweinyddwyr newydd yn cael eu hadeiladu gyda’r technolegau mwyaf ynni-effeithlon sydd ar gael, a’u hailgylchu neu eu gwaredu’n iawn ar ddiwedd eu hoes gwasanaeth.
O gyrchu ynni i’r gadwyn gyflenwi, mae cynaliadwyedd yn parhau i fod yn ffactor allweddol yn ei proses gwneud penderfyniadau.