Teithio a Pharcio
Lleoliad
Lleolir yr Ŵyl ym Mharc Gwynfryn, Crymych, SA41 3RQ. Am gyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Cerdded
Mae’r Ŵyl tua 5 munud ar droed o ganol pentref Crymych. Mae palmant yn arwain at safle’r Ŵyl. Bydd angen i chi groesi’r ffordd fawr o’r plamant, felly cymerwch ofal gan ei bod yn ffordd cyflym a phrysur.
Bws
Mae Bws 430 (Aberteifi-Arberth) yn stopio yng Nghrymych. Gellir lawrlwytho’r amserlen ddiweddaraf yma.
Cyrraedd mewn Car
Mae’r Ŵyl mewn lleoliad cyfleus ychydig oddi ar brif ffordd yr A478 i’r gogledd o Grymych.
Bydd digon o le parcio, a man gollwng/casglu addas.
Maes Parcio’r Ŵyl
Bydd digon o le parcio ar gael ar y safle sy’n agor am 12:30.
Peidiwch â cheisio mynd i mewn cyn yr amser hwn gan na fydd mynediad. Os penderfynwch adael eich car yn y maes parcio dros nos, fe wneir hyn ar eich menter eich hun, a bydd rhaid clirio erbyn 12:00 ddydd Sul.
Maes Parcio’r Pentref
Mae opsiwn parcio ar gael ym mhentref Crymych sy’n cynnwys 4 pwynt gwefru. Am gyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Bathodyn Glas
Bydd mannau parcio penodol i ddeiliaid bathodynnau glas ger mynedfa’r Ŵyl.