Mynd i'r cynnwys

Gwybodaeth Tocynnau

Mae'r ateb i'r rhan fwyaf o ymholiadau a chwestiynau am docynnau i'w gweld isod.

Gallwch brynu tocynnau yma.

Mae’r holl docynnau yn ‘e-docynnau’ a chânt eu dosbarthu trwy e-bost o fewn 24 awr i’w prynu.

Oes. Rhaid bod gennych docyn dilys i allu cael mynediad i’r ŵyl. Bydd y rhain yn cael eu sganio wrth y fynedfa.

I weld beth yw pris tocynnau, ewch i’r dudalen Tocynnau

Nid yw prisiau tocynnau yn cynnwys ffioedd archebu – cânt eu gosod gan yr asiant tocynnau. Mae rhedeg asiantaeth docynnau yn costio – (safle, TG, staff, cyfathrebu, comisiwn cardiau credyd ac ati). Mae ffi yn cael ei gyfrifo fel canran o bris pob tocyn neu yn swm penodol, ac yn cael ei ychwanegu gan yr asiantau ar ben gwerth tocyn i dalu am eu costau gwerthu ac fel tâl am y gwasanaeth a ddarperir ganddynt.

Bydd eich e-docyn yn cael ei e-bostio atoch o fewn 24 awr ar ôl ei brynu. Os na fyddwch wedi ei dderbyn, edrychwch yn eich ffolder sbam neu cysylltwch â ni.

Dim problem!
Os ydych chi wedi colli’ch tocynnau, ewch i’r dudalen Rheoli Tocynnau, lle byddwch chi’n gallu ail anfon y tocynnau i’ch e-bost.

Gall tocynnau fod ar gael ar y diwrnod, yn amodol ar argaeledd. Rydym yn argymell eich bod yn prynu eich tocynnau ymlaen llaw.

Ar ôl eu prynu, ni ellir ad-dalu na dychwelyd tocynnau oni bai bod y digwyddiad yn cael ei ganslo. Os caiff yr Ŵyl ei chanslo a’i haildrefnu ar gyfer y flwyddyn nesaf, bydd eich tocyn dal yn ddilys.

Cysylltwch â ni ar gyfer pob ymholiad am docynnau a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.